Lleng Rufeinig oedd Legio XII Fulminata. Fe'i ffurfiwyd gan Iŵl Cesar yn 58 CC, a bu ganddi enwau eraill megis Paterna, Victrix, Antiqua, Certa Constans a Galliena. Ei symbol oedd y daranfollt (fulmen).
Ymladdodd dros Cesar yn erbyn yr Helvetii ac yn erbyn y Nervii. Yn y rhyfel cartref yc hydig yn ddiweddarach, ymladdodd drosto yn erbyn Pompeius ym mrwydr Pharsalus, a chafodd yr enw Victrix.
Wedi llofruddiaeth Cesar, ymladdodd dros Marcus Antonius, a roddodd yr enw Antiqua iddi. Ymladdodd dan Antonius yn erbyn y Parthiaid yn 36 CC. Dan yr ymerawdwr Augustus, bu yn yr Aifft am gyfnod, yna o 14 O.C. yn Syria, lle roedd ei gwersyll yn Raphana gyda Legio III Gallica.
Yn 54, wedi i Vologases I, brenin Parthia feddiannu Armenia, ymladdodd y lleng yn erbyn y Parthiaid dan y cadfridog Gnaeus Domitius Corbulo. Yn 62, dan Lucius Caesenius Paetus, gorchfygwyd y lleng yma a Legio IV Scythica gan y Parthiaid, ac ni chawsant ran yn ymgyrch lwyddiannus Corbulo yn erbyn y Parthiaid yn fuan wedyn.
Yn 66, dechreuodd y gwrthryfel mawr Iddewig. Cipiwid Jeriwsalem gan y Selotiaid a gyrrwyd Legio XII Fulminata gyda rhannau o IV Scythica a VI Ferrata dan lywodraethwr Syria, Gaius Cestius Gallus i adfeddiannu'r ddinas. Nid oedd byddin Gallus yn ddigon cryf i gipio'r ddinas, ac wrth ddychwelyd o jeriwsalem gorchfygwyd hwy gan yr Iddewon ym mrwydr Beth Horon. Collodd y lleng ei heryr a dioddef colledion trwm. Cymrodd ran yn ymgyrch Vespasian ac yn nes ymlaen ei fab Titus yn erbyn y gwrthryfelwyr, ac wedi cwymp Jeriwsalem, gwersyllwyd hi ym Melitene gyda XVI Flavia Firma, i warchod y ffîn ar afon Ewffrates.
Yn 75, dan Domitian, roedd y ymladd yn y Cawcasws. Ceir arysgrif yn Azerbhaijan gydag enw'r lleng. Yn 134, ymladdodd yn erbyn yr Alaniaid dan Arrianus, llywodraethwy Cappadocia. Ymladdodd dan Marcus Aurelius yn erbyn y Quadi. Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Pertinax yn 193, bu ymryson am yr orsedd. Cefnogodd y lleng Pescennius Niger, llywodraethwr Syria, ond gorchfygwyd ef gan Septimius Severus. Yn ôl y Notitia Dignitatum roedd y lleng yn dal i wersylla ym Melitene tua 400.